Mae un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi wedi beirniadu cynllun i gynnal Etholiad Cyffredinol ac Etholiad Cynulliad 2015 ar yr un diwrnod.
Mae Llywodraeth San Steffan yn gobeithio newid y rheolau er mwyn cynnal Etholiad Cyffredinol bob pum mlynedd.
Ond fe fyddai hynny’n golygu y byddai Etholiadau’r Cynulliad a’r Etholiad Cyffredinol yn gwrthdaro pob 20 mlynedd.
Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi datgan nad ydyn nhw’n hapus gyda chynnal Etholiadau’r Cynulliad ar yr un diwrnod a’r Etholiad Cyffredinol yn 2015.
Maen nhw wedi codi’r posibilrwydd o symud yr etholiad ymlaen, neu yn ôl, fel nad ydyn nhw’n cyd-daro.
Dywedodd Pwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi y dylai’r llywodraeth fod wedi trafod gyda Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth yr Alban cyn bwrw ymlaen gyda’r cynllun.
Roedden nhw hefyd yn credu y dylai Etholiad Cyffredinol gael ei gynnal bob pedair blynedd, yn hytrach na bob pum mlynedd.
“Fe fyddai’n well osgoi’r cyd-daro er mwyn gwarchod hunaniaeth ar wahân San Steffan a’r gwledydd datganoledig,” meddai’r adroddiad.