Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi datgelu setliad ariannol gwell na’r disgwyl i nifer o gyrff celfyddydol er gwaetha’r toriadau yng nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad.
Dywedodd y cyngor y bydd faint o arian fydd rhai cyrff yn ei gael yn cynyddu yn “sylweddol”.
Dros y tair blynedd nesaf bydd 4% yn llai o arian ar gael gan y cyngor, ac fe fydd yn lleihau ei gostau rhedeg 12%.
Fe fydd 71 o sefydliadau celfyddydol yn cael ychydig dros £24.25 miliwn yn 2011/12, cynnydd o £20.55 miliwn yn 2010/11.
Bydd Artes Mundi, Disability Arts Cymru, Opera Canolbarth Cymru a National Theatre Wales yn cael mwy o arian.
Ond fe fydd Neuadd Dewi Sant Caerdydd, Theatr y Grand Abertawe, a Venue Cymru Llandudno yn cael llai o arian.
“Does neb yn ffynnu mewn hinsawdd ansicr ac nid eithriad mo’r celfyddydau,” meddai Cadeirydd y Cyngor, Dai Smith. “Rhaid i ni gymryd ein siâr o doriadau’r sector cyhoeddus.
“Ond o ganlyniad i’r strategaeth a gyhoeddwn heddiw bydd arian y rhan fwyaf o sefydliadau’n cynyddu – yn sylweddol mewn rhai achosion.
“I gyflawni hyn roedd yn rhaid i ni fynd i’r afael â phenderfyniadau anodd. Ond gallwn sicrhau y bydd y gorau o gelfyddydau Cymru yn ffynnu.”
Pwy sy’n cael beth
Sefydliad sy’n cael arian refeniw |
2010/11 |
2011/12 |
Y gwahaniaeth ariannol |
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth |
513,722 |
560,000 |
46,278 |
Academi |
694,894 |
694,894 |
0 |
Arad Goch |
360,227 |
378,250 |
18,023 |
Artes Mundi |
80,000 |