Mae’n “anochel” y bydd yn rhaid i S4C ddangos rhaglenni Saesneg unwaith eto, wedi cyfnod yn sianel gyfan gwbwl Gymraeg, meddai penaethiaid y sianel.

Gyda’i chyllideb yn gostwng 24.4% dros dair blynedd, bydd rhaid i S4C ystyried troi nôl i’r arfer o rannu amser ar yr awyr gyda rhaglenni Saesneg, yn ôl Arwel Ellis Owen.

“Rhaid i ni ddeall bod £25 miliwn yn mynd i ddiflannu. Rhaid i ni geisio darparu gwasanaeth da dan amgylchiadau sydd wedi eu cyfyngu,” meddai’r Prif Weithredwr dros dro.

“Mae’n afrealistig gyda’r arian sydd ganddon ni y byddwn ni’n gallu llenwi 24 awr,” meddai.

Mewn cyfarfod i ymddangos yn fwy agored, roedd yr is-Gadeirydd a’r Prif Weithredwr dros dro Arwel Ellis Owen yn mynnu bod S4C yn fwy na pharod i drafod â’r BBC ac Adran Ddiwylliant Prydain.

“Fedrwn ni ddim fforddio mynd i fewn i hyn gydag agwedd negatif,” meddai Arwel Ellis Owen. “Y bobol gaiff eu brifo gan hynny fyddai’r gwylwyr.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 16 Rhagfyr