Ni fydd ymosodwr Caerdydd, Michael Chopra, yn cynrychioli India yng Nghwpan Asia fis nesaf.

Roedd Chopra wedi cynnal trafodaethau â Ffederasiwn Pêl-droed yr India, ac wedi dweud ei fod o’n awyddus i chwarae i’r tîm cenedlaethol.

Ond mae rheolau India yn golygu mai dim ond pobol sydd â phasbort o’r wlad sy’n cael chwarae i’r tîm.

Mae adroddiadau yn yr India yn awgrymu nad yw’r Ffederasiwn ar frys i drefnu’r gwaith papur fyddai’n caniatáu i Chopra chwarae yn y gystadleuaeth sy’n dechrau yn Qatar ar 7 Ionawr.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Pêl Droed India, Kushal Das, hefyd wedi codi amheuon am werth Chopra i’r tîm.

“Dyw’r un chwaraewr ddim yn gallu ennill gêm bêl droed,” meddai Kushal Das.

Hedfanodd Chopra i Dubai fis diwethaf er mwyn cyfarfod gyda hyfforddwr yr India, Bob Houghton, a gwylio’r tîm rhyngwladol yn colli 9-1 yn erbyn Kuwait mewn gêm gyfeillgar.