Mae Casnewydd wedi ennill eu lle yn ail rownd y Tlws FA ar ôl curo Wealdstone neithiwr.

Bu’n rhaid i dîm Dean Holdsworth deithio i Stadiwm St George’s ar gyfer yr ornest yn dilyn gêm ddi-sgôr ar Barc Spytty dros y penwythnos.

Chwaraewyd hanner awr ychwanegol ar ôl i Gasnewydd fethu a sgorio yn ystod y 90 munud cyntaf – er iddynt roi pwysau mawr ar amddiffyn y tîm cartref.

Fe gipiodd Casnewydd y fuddugoliaeth pan sgoriodd Jon Challinor wedi 119 munud o’r chwarae.

Fe fydd Casnewydd yn wynebu naill ai Worksop neu Mansfield Town yn yr ail rownd ar 15 Ionawr.