Mae cyn-dywysog Nepal wedi ei arestio heddiw am danio dryll i’r awyr ar ôl dadl mewn bwyty.

Cyfaddefodd Paras Shah iddo danio’r dryll, gan ddweud na allai oddef clywed ei deulu a’i wlad yn cael eu sarhau.

Y cyn-dywysog yw unig fab y cyn-frenin King Gyanendra, a ddiorseddwyd yn 2008.

Dywedodd Paras Shah fod dau berson yn y bwyty yn ne Nepal wedi gwneud “sylwadau di-sail a phryfoclyd amdano a’r sefydliad yr oedd yn arfer ei gynrychioli”.

Gadawodd Paras Shah y bwyty cyn dychwelyd hanner awr yn ddiweddarach gyda dryll, a’i saethu i’r awyr unwaith, heb achosi niwed na difrod.

Cafodd ei arestio yn Pokharam, 125 milltir i’r gorllewin o Katmandu, ar ôl dianc.

Yn 2008, penderfynodd Cynulliad Etholaethol Nepal gael gwared ar deulu brenhinol y wlad.

Symudodd Shah i Singapore gyda’i wraig a’i blant, ond mae’n ymweld â Nepal yn rheolaidd.

Amheuon o hanes treisgar

Daeth ei dad, y cyn-Frenin Gyanendra, i’r orsedd ym Mehefin 2001 ar ôl i’w frawd, y Brenin Birendra, gael ei ladd gyda’i deulu mewn cyflafan tu fewn i’r palas brenhinol.

Mae yna amheuaeth cryf yn Nepal fod Gyanendra a Shah yn gysylltiedig â’r llofruddiaethau.

Hawliodd y Brenin Gyanendra rym unbenaethol yn 2005, ond gorfodwyd ef i ail-gyflwyno democratiaeth i’r wlad yn 2006 ar ôl protestio mawr.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd y frenhiniaeth ei ddiddymu yn Nepal, gan greu gweriniaeth yno.