Mae Heddlu Bro Morgannwg yn apelio am dystion ar ôl i swyddogion yr heddlu gael eu hanafu mewn tafarn ddydd Sul.
Galwyd yr heddlu ar ôl adroddiadau am gwffio treisgar yng Ngwesty’r Railway, Ffordd Plymouth ym Mhenarth toc wedi 11pm nos Sul.
Fe gafodd pum dyn eu harestio am anhrefn treisgar.
Mae’r Heddlu’n apelio ar unrhyw dystion i’r digwyddiad i gysylltu gyda nhw. Maen nhw hefyd eisiau gwybodaeth ynglŷn ag ymddygiad y dynion gafodd eu harestio cyn iddyn nhw gyrraedd Gwesty’r Railway .
Yn ogystal â hynny mae’r heddlu eisiau clywed gan unrhyw a welodd unrhyw ddigwyddiadau cysylltiedig yn y gwesty’r ddwy noson flaenorol.
“Roedd y digwyddiad hwn yn un hynod anarferol a threisgar,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Fe gafodd nifer o swyddogion Heddlu eu hanafu wrth ymateb. Roedd rhai swyddogion angen gofal yn yr ysbyty.”
Roedd y pum dyn a gafodd eu harestio yn cynnwys dyn 36 blwydd oed o’r Barri, dau ddyn 18 a 41 o Donyrefail a dau ddyn 23 a 26 o Hensol.