Mae ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru yn is nag unrhyw wlad arall yn Ynysoedd Prydain.
Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad bod y ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos cynnyrch economaidd Cymru rhwng 2008 a 2009, yn dangos yr “her” sy’n wynebu’r wlad.
Yn ôl y ffigyrau, £14,482 oedd Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA)y pen yng Nghymru yn 2009, cwymp o 2.5% ar y flwyddyn flaenorol.
Roedd hynny’n cymharu gyda chwymp o 2.7% ar draws gwledydd Prydain.
Serch hynny doedd Gwerth Ychwanegol Crynswth y pen yng Nghymru yn ddim ond 74.3% o’r cyfartaledd ar draws gwledydd Prydain.
“Mae’r ffigyrau yn dangos bod pob rhan o Brydain wedi ei tharo’n galed o ganlyniad i’r dirwasgiad,” meddai’r Gweinidog Economaidd Ieuan Wyn Jones.
“Mae angen newid cyfeiriad a chreu economi gryfach wrth i ni ddod allan o’r dirwasgiad. Mae angen creu’r amodau iawn i ganiatáu i’r sector preifat ffynnu.”
Ymateb
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol bod y ffigyrau yn dangos methiant Llywodraeth y Cynulliad i ddatrys “llanast economaidd” y wlad.
“Dyw hi ddim yn syndod mai Cymru yw wlad dlotaf y Deyrnas Unedig,” meddai Jenny Randerson, gweinidog economaidd y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Mae gyda ni lywodraeth Plaid-Llafur gwan a byr eu golwg sydd heb wneud dim byd i achub Cymru o’r llanast economaidd yma.”
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y ffigyrau yn “siomedig”.
“Fe fyddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn diddymu cyfraddau busnes y mwyafrif o fusnesau bychain yng Nghymru i’w helpu nhw i greu swyddi a rhoi hwb i ffyniant y wlad,” meddai Darren Millar, gweinidog economaidd yr wrthblaid.
“Ar ôl deng mlynedd o fod y wlad dlotaf ym Mhrydain mae angen rheolaeth newydd ar economi Cymru.”