Mae Dan Clements wedi cael ei benodi’n bennaeth perfformiad rygbi’r gynghrair Cymru.

Mae cyn chwaraewr Cymru A yn olynu Anthony Seibold sydd wedi dychwelyd i Awstralia fis diwethaf.

Fe fydd swydd Clements yn cynnwys cyflwyno cynlluniau strategol i ddatblygu chwaraewyr rygbi’r gynghrair Gymreig.

Cyfle da

Fe ddechreuodd Dan Clements chwarae’r gêm pan oedd yn fyfyriwr yn UWIC ddeng mlynedd ‘nôl. Fe aeth ‘mlaen i chwarae i’r Cardiff Demons cyn sefydlu’r Rumney Rhinos a ddatblygodd i fod yn Newport Titans.

Mae wedi hyfforddir’ Titans yn ogystal ag ail dîm y Celtic Crusaders. Mae hefyd wedi hyfforddi timau dan 16 ac 18 Cymru.

Fe fydd yn cyfuno ei rôl newydd gyda helpu i hyfforddi Scorpions De Cymru.

“Mae hwn yn gyfle da i mi ac mae’r math o swydd rwy’n mwynhau,” meddai Dan Clements.

“Mae chwaraewyr ifanc Cymru yn naturiol dalentog ac maen nhw am chwarae rygbi ar y lefel uchaf. Mae’r rhaglen r’y ni’n gosod yn rhoi’r cyfle iddynt gyflawni hynny”

‘Llawer o botensial’

Mae Dan Clements wedi cydweithio a recriwtio sawl seren presennol yn y Super League, gan gynnwys Lloyd White, Gil Dudson ac Elliot Kear, ac mae’n gweld llawer o botensial yng Nghymru.

“Mae gweld y chwaraewyr yma’n datblygu trwy’r rhaglenni a chwarae yn y Super League yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo”

“Mae’n profi ein bod ni ar y llwybr cywir ac fe fydd pethau ond yn gwella wrth i ni barhau i dyfu.”