Gallai dos isel o asprin gyda gwydred o lefrith leihau’r risg o ddatblygu canser, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Rhydychen heddiw.

Gallai cymryd Asprin am flynyddoedd dorri’r risg o farw o ganser rhwng un rhan o dri a hanner, meddai’r ymchwil heddiw.

Ond, dyw gwyddonwyr ddim yn annog pobol iach i lyncu asprin, sy’n cynyddu risg o waedu mewnol.

Serch hynny maen nhw’n dweud y gallai’r ymchwil newydd olygu bod asprin yn llai perygl ac yn gwneud mwy o ddaioni nag oedd arbenigwyr wedi ei feddwl.

Mae aspirin ar ei fwyaf effeithiol wrth atal canser mewn pobol rhwng 45 a 50 oed pan mae’r rhan fwyaf o ganserau yn dechrau datblygu, meddai ymchwilwyr.

Eisoes, mae miloedd o Brydeinwyr sydd mewn perygl o ddioddef clefyd y galon a thrawiadau yn cymryd aspirin.
“Dyw’r canlyniadau ddim yn golygu y dylai pobol ddechrau cymryd asprin, ond mae’n dangos bod gan y cyffur fwy o fudd nag oedden ni wedi meddwl,” meddai Peter Rothwell o Brifysgol Rhydychen.