Mae disgwyl i gapten Abertawe, Garry Monk ddychwelyd o anaf i roi hwb i’r Elyrch cyn eu gêm yn erbyn Millwall nos Wener.

Mae’r amddiffynnwr wedi methu tair gêm ddiwethaf Abertawe oherwydd anaf i’w goes a ddioddefodd yn erbyn Middlesborough ganol mis diwethaf.

Ond fe fydd y capten ar gael wrth iddynt dargedu llamu uwchben Caerdydd i’r ail safle yn y Bencampwriaeth.

Dyma fyddai eu safle uchaf yn y gynghrair bêl-droed ers disgyn allan o’r brif adran ym mis Mai 1983.

Ymddangosiad cyntaf i Easter?

Fe fydd Monk yn cymryd lle Alan Tate i ailymuno â Ashley Williams yng nghanol yr amddiffyn.

Fe lwyddodd Williams a Monk i atal eu gwrthwynebwyr rhag sgorio mewn chwech allan o’u saith gêm ddiwethaf cyn i’r capten cael ei anafu.

Fe allai ymosodwr Cymru, Jermaine Easter hefyd gael y cyfle i chwarae dros yr Elyrch am y tro cyntaf ers ymuno wrth y MK Dons ar gytundeb benthyg fis diwethaf.