Mae’r Scarlets yn wynebu trafferthion yn y rheng flaen wrth iddynt baratoi i wynebu Treviso ddwywaith yn y Cwpan Heineken.
Mae’r propiau Deacon Manu a Peter Edwards yn ymuno â Rhys Thomas ar yr ystlys ar ôl iddynt dorri eu breichiau yn erbyn Leinster nos Wener ddiwethaf.
Fe fydd Manu ac Edwards allan am gyfnod sylweddol ac fe fydd angen rhyw bythefnos arall ar Thomas cyn y bydd yn gallu ystyried dychwelyd i chwarae.
“Ni fydd tri o bropiau’r tîm cyntaf ar gael. Fe fydd rhaid i ni ddod at ein gilydd i weld pa opsiynau sydd ar gael i ni. Ein prif bryder ar hyn o bryd yw’r anafiadau,” meddai prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies.
Troi at chwaraewyr dibrofiad
Mae disgwyl bydd rhaid i’r Scarlets droi at y propiau sy’n weddill yn y garfan. Mae Phil John, Richard James a Simon Gardiner ar gael i’r Scarlets. Simon Gardiner, sydd wedi cynrychioli Cymru dan 20 yw’r unig brop pen tynn yn y garfan.
Mae Nigel Davies hefyd yn ystyried gofyn am ganiatâd arbennig gan Gwpan Rygbi Ewrop i arwyddo dau chwaraewr newydd oherwydd yr argyfwng.
Fe fydd y Scarlets yn teithio i ogledd yr Eidal y penwythnos yma i wynebu tîm maen nhw eisoes wedi colli yn erbyn y tymor hwn cyn croesawu Treviso ‘nôl i Lanelli’r wythnos ganlynol.