Mae ymosodwr Caerdydd, Andy Keogh wedi dweud wrth gefnogwyr y clwb i beidio poeni am gyfnod siomedig Caerdydd yn y Bencampwriaeth.

Dyw’r Adar Glas ond wedi ennill un gêm o’r chwech diwethaf, ond maen nhw’n dal i fod yn ail yn yr adran wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Middlesborough ddydd Sadwrn.

Ond mae ‘na bryderon ymysg y cefnogwyr gan fod Abertawe o fewn pwynt iddyn nhw yn y trydydd safle, ac mae gan QPR bedwar pwynt o fantais ar frig y tabl.

Carfan dalentog

Er gwaethaf hyn, mae Keogh yn credu bod gan Gaerdydd garfan dalentog a fydd yn gallu aildanio’r tymor.

“R’y ni wedi cael rhediad gwael, ond does dim byd i boeni amdano. Ein job ni yw gweithio’n galed i sicrhau nad yw’r cyfnod yma’n parhau’n rhy hir,” meddai Keogh wrth bapur newydd y Western Mail.

“Pan oeddwn i gyda Wolves fe aethom ni trwy gyfnod lle gwnaeth y tîm ennill dim ond un gêm mewn 11. Ond fe aethon ni dal ‘mlaen i ennill y Bencampwriaeth”

“Fe fydd y safon sydd yn y garfan yn dod i glawr yn y pen draw ac r’y ni’n ymdrechu i sicrhau bod hynny’n digwydd”

Bothroyd i fethu gêm ‘Borough

Mae disgwyl i Andy Keogh arwain ymosod yr Adar Glas dros yr wythnosau nesaf ar ôl i Jay Bothroyd dioddef anaf i’w gyhyr yn erbyn Preston dros y penwythnos.

Mae Bothroyd yn mynnu nad yw’r anaf yn un difrifol, a’i fod ond yn mynd i golli’r gêm yn erbyn Middlesborough.

Ond gyda Chaerdydd yn wynebu cyfnod prysur dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd, fe allai rheolwr y clwb, Dave Jones fod yn amharod i ruthro’r chwaraewr allweddol ‘nôl yn rhy gynnar.