Mae Cadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones, wedi dweud wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Hunt ei fod o am ymddiswyddo.
Dywedodd ei fod am weithredu ar sail yr awgrym a wnaeth wythnos yn ôl, ac ymddeol o’i swydd ar unwaith.
Yn ôl yr Adran Diwylliant ysgrifennodd John Walter Jones at Jeremy Hunt ddoe yn dweud ei fod o eisiau ymddeol yn syth, yn hytrach na disgwyl tan y Gwanwyn fel yr awgrymodd yr wythnos diwethaf.
Yn ei lythyr dywedodd John Walter Jones bod “rhaid i Awdurdod S4C fod yn unedig ac unplyg wrth gyrchu ateb i’r sialensiau sy’n wynebu’r sianel”.
Roedd o hefyd yn annog aelodau eraill yr Awdurdod i “ganolbwyntio ar sicrhau trafodaeth ystyrlon gydag Ymddiriedolaeth y BBC”.
Fe gafodd John Walter Jones ei benodi yn Gadeirydd yn Ebrill 2006. Cyn ymuno ag S4C bu’n was sifil ac yn 1988 fe sefydlodd Fwrdd yr Iaith Gymraeg a hyd ei ymddeoliad yn 2004 bu’n Brif Weithredwr ar y Bwrdd.
Rheon Tomos yn arwain
Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod S4C y bydd Rheon Tomos yn gyfrifol am arwain yr Awdurdod, fel Is-Gadeirydd, hyd nes y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penodi Cadeirydd newydd.
“Hoffwn ddiolch i John am ei gyfraniad dros y blynyddoedd,” meddai Rheon Tomos.
“Mae’n rhaid i’r Awdurdod a’r Sianel edrych tua’r dyfodol. Mae trafodaethau pwysig a phenderfyniadau allweddol i’w gwneud dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf ac mae aelodau’r Awdurdod yn unfrydol fod yn rhaid sicrhau annibyniaeth S4C a sefydlu ffrwd cyllid hir dymor i’r Sianel.
“Edrychwn ymlaen at gyd weithio gyda DCMS, y BBC, y sector gynhyrchu yng Nghymru, y Cynulliad a phartneriaid eraill er mwyn gwneud hynny”.
Chwilio am olynydd
Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant ei fod o’n diolch i John Walter Jones am ei waith i’r Awdurdod dros y chwe blynedd diwethaf.
“Fe fydd y gwaith o ddechrau chwilio am olynydd yn dechrau cyn hir,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Ddiwylliant.
“Yn y cyfamser mae’r Ysgrifennydd Diwylliant wedi gofyn i Awdurdod S4C gadarnhau’r trefniadau dros dro er mwyn sicrhau bod yna arweiniad ar adeg hollbwysig i’r darlledydd.
“Fe fydd rhaid ei fodloni bod S4C yn gallu parhau i gyflawni ei gwaith yn effeithiol.
“Un o’r tasgau cyntaf y bydd y cadeirydd newydd yn ei wynebu ydi adolygu strategaeth drefniadol S4C er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu darparu darlledu iaith Gymraeg o’r safon uchaf.
“Mae disgwyl y bydd adolygiad pellach ynglŷn â sut orau i ddarparu Darlledu Iaith Gymraeg yn y tymor hir yn digwydd tua diwedd y Senedd yma ar ôl i’r BBC a S4C gael y cyfle i ddatblygu ffyrdd o gydweithio.”
Llythyr John Walter Jones
Annwyl Ysgrifennydd Gwladol,
Ni ellir caniatáu i’r sefyllfa sy’n bodoli yn S4C barhau.
Mae’r gair dryswch, am ba bynnag reswm, yn cael ei ddefnyddio dro ar ôl tro gan rai yng nghyswllt fy mhenderfyniad i ymddeol. Bellach, deuthum i’r casgliad mai gweithredu ar fy nghynnig i sefyll o’r neilltu i hyrwyddo unrhyw benderfyniad gennych chi ynglŷn a dyfodol S4C yw fy nymuniad. Byddaf felly yn ymddeol fel Cadeirydd yr Awdurdod yn union. Yn amlwg mae rhai sydd yn anfodlon caniatáu i’r trosglwyddiad trefnus y bu i chi a fi gytuno arno fis Tachwedd gymryd lle.
Rhaid i Awdurdod S4C fod yn unedig ac unplyg wrth gyrchu ateb i’r sialensiau sy’n wynebu’r sianel. Dim ond ansefydlogi a chreu sefyllfa cwbl annerbyniol i staff ymroddedig S4C ac i’r gwneuthurwyr rhaglenni wnaiff unrhyw beth ac eithrio unfrydedd.
Dylai pawb bellach ganolbwyntio ar sicrhau trafodaeth ystyrlon gydag Ymddiriedolaeth y BBC a’r Adran Ddiwylliant i sicrhau model gweithredol sy’n gwarantu annibyniaeth S4C ac ar greu sefydlogrwydd o ran y berthynas weithredol gyda’r sector annibynnol. Nid wyf am i neb fy ystyried yn rhwystr yn hyn o beth nag yn wir fel dylanwad ar benderfyniadau y bydd eraill yn gyfrifol am eu gweithredu.
Mae’r materion a restrwyd yn y ddogfen “A Process of Renewal” anfonwyd atoch gan S4C ar Fedi’r 6ed angen ystyriaeth yn y ffordd fwyaf priodol. Mae gofyn rhoi sylw ar fyrder i’r angen am ail gysylltu ieithyddol ac i broses o ymwneud gyda’r gynulleidfa. Dylid diffinio’n glir a gwneud yn eglur union berthynas S4C gyda’r Cynulliad Cenedlaethol. Dylid adolygu perthynas cyflenwyr rhaglenni gyda’r sianel. Gellir ystyried hyblygrwydd ar sail dealltwriaeth o ran allbwn, sy’n adlewyrchu gweledigaeth ar y cyd er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a dilyniant o ran darpariaeth mewn hinsawdd economaidd sy’n llai na ffafriol. Yn amlwg dylid gofalu bod cystadleuaeth greadigol o ran syniadau rhaglenni rhwng darparwyr yn rhan annatod o’r broses. Mae angen ystyried datblygiadau technolegol a dylid ystyried strwythurau comisiynu priodol yn yr hinsawdd newydd hon yn gyfochrog a’r trafodaethau gyda’r BBC.
Dylai pawb sydd ynghlwm ac ystyried y model priodol gogyfer a dyfodol S4C fod yn wynebu’r dasg gyda dim ond un bwriad – sicrhau dyfodol darlledwr cyhoeddus unigryw a’i allu i ddatblygu. Mae’r obsesiwn sydd gan ambell un ar hyn o bryd am faterion nad ydynt yn berthnasol o gwbl i gynnwys nag allbwn rhaglenni S4C yn fater o dristwch, ond rhaid sylweddoli, tra bod yr amrywiol agendau hyn yn bodoli fod S4C yn darlledu rhaglenni y gellir yn haeddiannol ymfalchïo ynddynt. Mae mwyafrif helaeth o staff S4C yn ymroddedig ac yn ddygn weithio i sicrhau llwyddiant S4C.
Rhaid gweithredu nawr i sicrhau nad yw cam ganfyddiad yn datblygu’n ffaith. Mae f’ymddeoliad yn rhan o sicrhau hyn fel bod y rhai sydd a’r cyfrifoldeb statudol am atebolrwydd S4C yn delio a’r pethau gwirioneddol bwysig a’r sialensiau, ac yn canolbwyntio’u hymdrechion ar ddatrys materion allweddol.
John Walter Jones
Llythyr Jeremy Hunt
Annwyl John,
Diolch am eich llythyr ar 6 Rhagfyr yn rhoi gwybod i fi am dy benderfyniad i ymddeol o’ch swydd yn Gadeirydd S4C yn syth. Mae’n flin gen i eich bod chi’n teimlo mai dyma’r unig ddewis er mwyn bwrw ymlaen gydag S4C.
Hoffwn ddiolch i chi am eich 6 mlynedd o wasanaeth ymroddedig i’r sianel a’r modd yr ydych chi wedi cyflawni eich swyddogaeth yn aelod o’r Awdurdod a hefyd yn Gadeirydd.
Rydw i o’r farn bod darlledu iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o’r cyfryngau a hoffwn i ddiolch i chi am eich rhan ynddo.
Rydw i’n cytuno gyda chi mae’r cam nesaf er mwyn sicrhau dyfodol cryf a chynaliadwy i’r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yma a’i gynulleidfa yw parhau gyda’r trafodaethau rhwng S4C a’r BBC.
Pob lwc i chi yn y dyfodol.
Yn gywir,
Jeremy