Mae’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi cynnig gwelliant munud olaf i’r Mesur Iaith cyn i ASau bleidleisio arno heddiw.

Ac mae ymgyrchwyr wedi ei alw’n “ddatblygiad cyffrous”.

Roedd beirniaid yn anhapus nad oedd y Mesur Iaith yn rhoi statws swyddogol i’r iaith ochr yn ochr gyda’r Saesneg.

Yn yn ôl Llywodraeth mae’r gwelliant ar ddechrau’r Mesur yn cadarnhau bod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol.

“Mae’r gwelliant yn mynd i’r afael gyda phryderon pobol a oedd yn gofidio bod Adran 1(2) y mesur yn tanseilio egwyddor cyffredinol statws swyddogol yr iaith,” meddai’r Llywodraeth.

“Mae’r gwelliant yma yn tawelu meddwl pobol nad ydi’r egwyddor cyffredinol bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru wedi ei gyfyngu.

“Mae adran 1(2) yn ei gwneud hi’n glir bod gan y statws swyddogol rym cyfreithiol.”

Mae rhai o awreinwyr yr ymgyrch o blaid cryfhau’r Mesur Iaith, Yr Athro Richard Wyn Jones a’r cyfreithiwr Emyr Lewis, wedi croesawu’r newid.

Os bydd y Mesur Iaith yn cael ei basio, fe fydd yn dod yn ddeddf yn y flwyddyn newydd.

Croesawu

“Rydym yn croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth wedi dwyn y gwelliant hwn gerbron,” meddai Richard Wyn Jones ac Emyr Lewis.

“Mae’r datblygiad cyffrous hwn ar y munud olaf yn dangos bod gennym yng Nghymru Lywodraeth sy’n gwrando ar ei phobol ac yn ymateb yn gadarnhaol i farn ei hetholwyr.

“Diolch i’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones ac i’r Aelod Cynulliad Bethan Jenkins am eu harweiniad a’u gweledigaeth.

“Dyma gam hanesyddol sy’n mynd i osod sail gadarn ar gyfer y dyfodol. Eisiau byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg y mae pobol wedi’r cyfan, nid protestio ynghylch yr iaith byth a hefyd.

“Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn cydnabod yr hyn gyflawnwyd heddiw. Carem ddiolch i bawb sydd wedi bod yn llythyru, yn e-bostio, yn ffonio, ac yn cyfarfod â’r Aelodau Cynulliad er mwyn eu cymell i gefnogi’r egwyddor ganolog o statws swyddogol cyflawn i’r iaith Gymraeg. Bydd pawb yn gallu cysgu’n dawel heno.

“Wrth gwrs bydd cyfrifoldeb pob copa walltog tuag at y Gymraeg yn parhau a hyderwn y bydd modd i ni i gydweithio gyda’n gilydd i sicrhau dyfodol iach i’n hiaith.”

Y gwelliant

Dyma’r newid: “Adran 1, tudalen 12, ar ddechrau llinell 15, ychwanegwch -’Heb ragfarnu egwyddor gyffredinol is-adran (1)’ “