Mae gêm Uwch Gynghrair Cymru rhwng y Seintiau Newydd a Llanelli heno wedi cael ei gohirio.

Mae cae Park Hall yn ddigon da i chwarae’r gêm ond roedd Llanelli wedi gofyn am ei hail drefnu am na fyddai’n hawdd teithio i Groesoswallt drwy’r rhew a’r eira.

Dyma’r bedwaredd gêm yn olynol mae Llanelli wedi methu ei chwarae oherwydd y tywydd rhewllyd.

Maen nhw eisoes wedi gohirio gemau yn erbyn Hwlffordd, Bangor a’r Drenewydd.

Ond mae gêm Llanelli yn erbyn Bangor wedi cael ei ail-drefnu ar gyfer nos Fawrth 4 Ionawr gyda’r gêm yn dechrau am 7.30pm.