Mae o leiaf 22 o bobol wedi marw ar ôl i dân glaswelltir yr oedden nhw’n ei frwydro yn ne-orllewin China droi gan eu caethiwo nhw.
Dywedodd asiantaeth newyddion Xinhua bod y 22 ymysg mwy nag 2,000 fu’n brwydro’n tân ddoe yn rhanbarth Sichuan. Dioddefodd tri arall o anafiadau drwg.
Yn ôl yr asiantaeth newyddion fu fuodd 15 milwr a dau o weithwyr y llywodraeth farw. Roedd y ddau arall fu farw yn ddinasyddion.
Roedd y tân dan reolaeth yn hwyr neithiwr wrth i wyntoedd cryfion ostegu. Does yna ddim gwybodaeth ynglŷn â beth achosodd y tân.
(Llun: Rhanbarth Sichuan)