Mae cyflwynydd rhaglen Today, James Naughtie wedi ymddiheuro ar ôl galw’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, yn ‘Jeremy C**t’ yn fyw ar yr awyr.
Fe wnaeth y cyflwynydd y camgymeriad yn fyw ar raglen Today toc cyn 8am bore ma.
“Yn gyntaf ar ôl y newyddion, fe fydden ni’n siarad gyda Jeremy C**t,” meddai cyn cyfweld yr aelod Cabinet.
Mae Jeremy Hunt wedi dod i amlygrwydd yn y wasg Gymreig dros y misoedd diwethaf am ei gynllun i roi S4C dan adain y BBC.
Ymddiheurodd James Naughtie am 8.20am, gan ddweud ei fod o wedi “mynd i drafferthion cyn newyddion 8am, diolch i Dr Spooner”.
“Mae ambell un wedi gyrru e-byst yn dweud ei fod o’n ddoniol iawn, ond roedd ambell un arall wedi eu tramgwyddo,” meddai.
“Mae’n flin iawn gen i i bawb nad oedd eisiau clywed hynny dros eu brecwast. Doeddwn i ddim chwaith.”
Cyhoeddodd Jeremy Hunt neges ar Twitter yn ddiweddarach yn dweud ei fod o’n “chwerthin” ynglŷn â beth ddigwyddodd.