Mae dau o’r cloddwyr fuodd yn gaeth o dan y ddaear yn Chile am ddeufis wedi dweud fod yna gynlluniau i greu ffilm o’r hyn ddigwyddodd.

Wrth ymweld â Costa Rica dywedodd Juan Illanes bod y trafodaethau “wedi mynd yn bell ac rydym ni’n gobeithio y bydd yna ganlyniad yn fuan”.

“Mae’n gytundeb busnes ac o dan y fath amgylchiadau mae’n rhaid dod o hyd i ffordd i bawb elwa’n deg.”

Dywedodd Juan Illanes bod ei fywyd yn “hollol wahanol” ers iddo ef a’i gyd-weithwyr gael eu hachub ym mis Hydref ar ôl 69 diwrnod yn gaeth 2,300 troedfedd dan y ddaear.

Cyn y chwalfa roedd o’n “weithiwr arferol” ac ni fyddai erioed wedi gallu fforddio trip i Costa Rica.

Roedd Juan Illanes a’r cloddiwr Raul Bustos yn y brifddinas, San Jose, er mwyn cynnal dwy gynhadledd ynglŷn â’u profiadau yn gaeth yn y chwarel.

Fe fydden nhw’n dychwelyd i Chile cyn teithio i Brydain ar 11 Rhagfyr er mwyn gwylio un o gemau clwb pêl-droed Manchester United.