Mae’r Llywodraeth yn wynebu cyfres o brotestiadau ffres yr wythnos hon cyn pleidlais bwysig ar gynlluniau dadleuol i godi cymaint â £9,000 y flwyddyn ar fyfyrwyr Prifysgolion.
Mae myfyrwyr a darlithwyr ar draws y wlad yn parhau i roi pwysau ar ASau i bleidleisio yn erbyn y cynlluniau ar ôl gwrthdystiadau ar draws Cymru a Lloegr yn yr wythnosau diwethaf.
Yn y cyfamser, mae grŵp o ASau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio gohirio’r bleidlais er mwyn cael cyfnod o ymgynghori.
Mae peryg i’r mater achosi rhwyg difrifol rhwng yr ASau mainc cefn a’u harweinwyr, sy’n cefnogi’r polisi.
Cynlluniau’r Llywodraeth fyddai’r newid mwya’ radical o ran trefn y prifysgolion ers degawdau. Fe fydd y Llywodraeth yn torri arian cyhoeddus i’r sefydliadau addysg uwch yn Lloegr ac yn rhoi’r hawl iddyn nhw godi ffioedd tair gwaith y lefel ar hyn o bryd.
Gwefannau rhyngweithio
O hyn ymlaen, fe fydd Heddlu Llundain yn cadw llygaid ar wefannau rhyngweithio cymdeithasol i geisio canfod maint cefnogaeth protestwyr cyn ddydd Iau.
Fe gawson nhw’u dal heb baratoi adeg protest fawr y mis diwetha’ pan aeth lwyddodd criw bach o wrthdystwyr i ymosod ar bencadlys y Ceidwadwyr.
Mae rhai undebau llafur hefyd yn galw ar eu haelodau i ymuno’r yn y protestiadau – gan ddadlau bod myfyrwyr yn dioddef yn uniongyrchol o doriadau enfawr y Llywodraeth mewn gwariant cyhoeddus.
Ar ddiwrnod y bleidlais, bydd lobio gan ASau a rali yn San Steffan.
Protest Caergrawnt
Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt yn cynllunio protest fawr y tu allan i’w Cyngor Prifysgol heddiw, a hynny ar ôl i fyfyrwyr feddiannu un o adeiladau’r brifysgol am 11 diwrnod. Maen nhw eisiau i brifathro’r Brifysgol eu cefnogi.
“Trwy wrthod gwneud datganiad yn erbyn toriadau’r llywodraeth i’r sector cyhoeddus, mae’r is-ganghellor yn sefyll yn erbyn y myfyrwyr, academyddion a staff y brifysgol,” meddai Rosie Gaynor o’r Brifysgol.
“Byddwn yn protestio y tu allan i siambr y cyngor i atgoffa’r is-ganghellor – er ei fod wedi ein trin â distawrwydd, fod ein hymgyrch yn tyfu drwy’r amser,” meddai.
Llun: Rhan o Brifysgol Caergrawnt