Mae corff dynes wedi’i ddarganfod yng Ngwalchmai, Sir Fôn, meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Does dim esboniad wedi’i roi hyd yn hyn ac mae ymchwiliadau’n parhau i geisio sefydlu achos ei marwolaeth.

Ond mae’r heddlu wedi rhybuddio pobol i fod yn fwy gofalus nag arfer yn ystod y tywydd oer.

Peryg sglefrio ar rew

Mae cwmni Dŵr Cymru hefyd wedi rhybuddio pobol i beidio â mynd i sglefrio ar gronfeydd.

Maen nhw’n rhybuddio bod y rhew’n dwyllodrus a bod y dŵr oddi tano’n beryglus o oer ac yn ddigon i ladd trwy hypothermia.

Problem arall, meddai’r cwmni, yw bod llawer o’r cronfeydd ymhell o bob man ac, hyd yn oed os oes gwasanaeth ffonau symudol yno, fe fyddai’n cymryd peth amser i’r gwasanaethau achub eu cyrraedd.

Meddai Dŵr Cymru

“R’yn ni eisiau i bobol fwynhau’r cyfle o hamddena ar dir o amgylch ein cronfeydd yr adeg yma o’r flwyddyn,” meddai pennaeth gweithredu’r cwmni, Peter Perry.

“Ond rhaid i ni hefyd atgoffa pobol o’r peryg mawr o gamu ar rew. Efallai ei fod yn edrych yn ddeniadol ond gallech yn hawdd gwympo trwyddo i’r dŵr rhewllyd islaw.”

Llun: Canol Gwalchmai (Eric Jones CCA 2.0)