Fe gafodd gwefan Wikileaks ei chondemnio eto ar ôl cyhoeddi rhestr o safleoedd pwysica’r Unol Daleithiau.
Yn ôl llefarydd ar ran rhif 10 Downing Street, fe fydd gollwng yr wybodaeth yn peryglu “diogelwch cenedlaethol” yng ngwledydd Prydain, yr Unol Daleithiau a llefydd eraill.
Mae’r rhestr yn cynnwys nifer o safleoedd yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys tri sy’n eiddo i’r cwmni arfau BAE Systems.
Safleoedd pwysig
Ar draws y byd, mae’r wefan wedi cyhoeddi manylion am bibellau a ffatrïoedd a chanolfannau sy’n cynhyrchu adnoddau gwerthfawr – dyma’r safleoedd y mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau fwya’ awyddus i’w hamddiffyn.
Yn y cyfamser, mae cyfreithiwr sylfaenydd Wikileaks yn dweud y bydd yn gwrthwynebu ymdrechion i anfon ei gleient o wledydd Prydain i Sweden i wynebu honiadau o droseddau rhywiol.
Yn ôl Mark Stephens, sy’n cynrychioli Julian Assange, dim ond “st?nt gwleidyddol” yw’r honiadau.
Llun: Un o awyrennau milwrol BAE Systems (gwefan y cwmni)