Fe fydd rhaglen deledu heno’n honni bod mudiad Cymreig yn cynnwys elfennau hiliol a Ffasgaidd a’u bod aelodau wedi cymryd rhan mewn troseddau.

Roedd rhaglen y BBC, Week In Week Out, wedi anfon gohebydd cudd i ymuno gyda gweithgareddau’r Welsh Defence League, sy’n honni ymgyrchu’n erbyn Moslemiaeth eithafol.

Mae’r cynhyrchwyr yn dweud bod ganddyn nhw dystiolaeth ar ffilm o aelodau’n gwneud sylwadau hiliol a dau’n cyfadde’ eu bod wedi cymryd rhan mewn trais hiliol.

‘Ymddygiad troseddol’

Does dim yn newydd yn yr honiadau am y grŵp sy’n gysylltiedig â’r English Defence League yn Lloegr ond mae’r BBC yn dweud fod ganddyn nhw dystiolaeth bendant.

Yn ôl y BBC, roedd barnwr a bargyfreithiwr wedi gweld y lluniau ac yn credu eu bod yn dystiolaeth o ymddygiad troseddol.

Fe ddywedodd cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, y dylai gwleidyddion rybuddio pobol ifanc rhag mudiadau fel y WDL

“Roedd Hitler wedi gallu dod i rym oherwydd bod gwleidyddion y brif ffrwd wedi methu wedi methu â delio gyda chwynion yn yr Almaen,” meddai.

“Plaid fechan ymylol yw’r WDL, ond unwaith y byddwch chi’n caniatáu i’r grwpiau yma ennill hygrededd, dyna lle y gallwch chi orffen.”

WDL – y cefndir

Dyn o Gaerdydd o’r enw Jeff Marsh oedd sylfaenydd y WDL ond mae’n dweud wrth y rhaglen ei fod wedi dileu’r mudiad a chreu un newydd o’r enw Welsh Casuals.

Ond mae gwefan y Gynghrair yn fyw o hyd ac mae’n awgrymu mai cangen bêl-droed yw’r Casuals. Mae’r wefan yn gwadu eu bod yn hiliol a bod croeso i aelodau o bob hil.

Y nod, meddai’r wefan, yw “sefyll yn erbyn Islam Filwrol a’r eithafwyr y tu cefn i’r cynllwyn i droi Prydain yn wladwriaeth Islamaidd”.

Llun: Slogan oddi ar wefan y Welsh Defence League