Mae Aelod Seneddol wedi amddiffyn ei ymchwilydd sydd mewn peryg o gael ei hanfon o’r Deyrnas Unedig ar honiadau o weithio i Rwsia.
Yn ôl Mike Hancock, AS De Portsmouth, mae angen i’r lluoedd diogelwch gyflwyno tystiolaeth i ddangos bod Katia Zatuliveter, 25, wed bod yn ysbïo.
Ond fe rybuddiodd y cyn AS o Gymru, Kim Howells, bod gweithgareddau Rwsia wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwetha’.
Ac yntau’n gyn gadeirydd ar y pwyllgor seneddol sy’n goruchwylio diogelwch, fe ddywedodd wrth y BBC ei fod yn gobeithio bod trefniadau’r Senedd wedi cael eu tynhau.
Fe gafodd yr ymchwilydd, sy’n dod o Dagestan, ei harestio ddydd Iau ac, ar hyn o bryd, mae mewn canolfan gadw ac yn bwriadu apelio’n erbyn y penderfyniad.
Yn ôl Mike Hancock, sy’n cynrychioli sedd lle mae gan y llynges ganolfan fawr ac sy’n aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Amddiffyn, does ganddo ddim lle i gredu bod yr Katia Zatuliveter wedi gwneud dim o le.
Llun: Llongau rhyfel yn Portsmouth (LordHarris CCA 3.0)