Fe gyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith y byddan nhw’n atal eu hymgyrch uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth y Cynulliad ar ôl i Aelod Cynulliad gyflwyno dau welliant allweddol i’r Mesur Iaith.
Ond maen nhw hefyd wedi rhybuddio y byddan nhw’n “cadw llygad” i weld sut y mae pob AC yn pleidleisio.
Os bydd awgrym AC Plaid Cymru, Bethan Jenkins, yn gweithio, fe fydd y Mesur yn cynnwys datganiadau’n rhoi statws swyddogol clir i’r Gymraeg ac yn rhoi hawliau i ddefnyddwyr yr iaith.
Fe gyhoeddodd y Gymdeithas y bydd yr ymgyrch ddi-drais – a welodd chwe phrotestiwr yn cael eu harestio yr wythnos ddiwetha’ – yn cael ei gohirio tan ar ôl y bleidlais.
‘Cyfle hanesyddol’
Mae’r Gymdeithas yn galw’r gwelliannau yn “gyfle hanesyddol” i “roi cyfiawnder i bobol sy’n cael eu trin yn israddol”.
Statws a hawliau yw’r ddau bwynt mwya’ dadleuol yn y Mesur Iaith, gydag un o bwyllgorau’r Cynulliad a chasgliad o fudiadau iaith a chyfreithwyr yn dweud bod angen datganiad clir i roi statws swyddogol i’r Gymraeg.
Heb hynny, a datganiad hawliau, meddai’r Gymdeithas, “mae’r mesur yn gyfan gwbl ddiffygiol ac yn dangos diffyg gweledigaeth lwyr”.
Mae’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi mynnu bod y datganiadau sydd yn y Mesur eisoes yn ddigon cry’ ac y byddai datganiad fel un yr ymgyrchwyr yn rhoi’r grym i’r llysoedd benderfynu ar le’r Gymraeg.
‘Cadw llygad’
“Fe fydd ein haelodau ni, a’r cannoedd eraill sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrchu a chyflwyno tystiolaeth i sicrhau statws a hawliau â’u llygaid ar y Senedd ddydd Mawrth i weld sut y bydd yr Aelodau Cynulliad yn pleidleisio,” meddai Ceri Phillips, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg y Gymdeithas.
Llun: Alun Ffred Jones