Mae Dirprwy Brif Weinidog y llywodraeth glymblaid yn San Steffan, wedi dweud yn glir bod ei blaid ef, y Democratiaid Rhyddfrydol, yn parhau’n hollol ar wahân i’r Ceidwadwyr.
Wrth ymateb i sylwadau y gallai’r ddwy blaid benderfynu ymladd yr etholiad nesa’ gyda’i gilydd, mae Nick Clegg wedi dweud yn bendant nad yw ei aelodau am iddo fod yn “ffrindiau gorau” gyda’r Prif Weinidog, David Cameron.
“Dw i ddim yn meddwl fod y wlad chwaith am i ni fod yn ffrindiau gorau,” meddai Mr Clegg mewn cyfweliad â phapur yr Independent on Sunday.
“Dydw i ddim yn difaru mynd i glymblaid gyda’r Ceidwadwyr. Dim o gwbwl. Dw i’n hollol bendant y byddai unrhyw benderfyniad arall wedi bod yn ddinistriol i’r wlad.
“Dw i ddim yn mynd i ymddiheuro, fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol sydd heb fod mewn llywodraeth ers 60 neu 70 mlynedd, ein bod ni bellach yn rhan o lywodraeth,” meddai Nick Clegg.
“Fedrwch chi ddim osgoi gorfod delio efo’r byd fel ag y mae o.”