Wedi i’r rhew diweddar hwn doddi, prif broblem y ffyrdd fydd y tyllau yn y tarmac. Dyna rybudd yr arbenigwyr ar y we, potholes.co.uk.
Fe fydd cyflwr y ffyrdd yn dirywio’n gyflym dros y misoedd nesa’, yn ôl y wefan sy’n cael ei rhedeg gan gwmni yswiriant Warranty Direct. Maen nhw’n disgwyl llawer o achosion o geir yn cael eu difrodi tra’n teithio ar ffyrdd tyllog.
Y llynedd, fe dalwyd £320m er mwyn cywiro difrod i geir oherwydd tyllau yn y ffyrdd.
“Fe allai’r ffigwr hwn ymddangos yn ddim wedi’r tymor oer hwn eleni,” meddai llefarydd ar ran Warranty Direct.
“Rhwng y tywydd oer a’r cyfnod rhewllyd sydd wedi dod yn gynharach nag arfer eleni, mae’n mynd i fod yn fisoedd diflas iawn i fodurwyr.”
Beth sy’n achos tyllau yn y ffordd?
Mae tyllau’n ffurfio yn y ffyrdd ar ôl i ddwr neu eira lenwi craciau bychain sydd eisoes yn y tarmac neu’r concrid. Wrth rewi, mae’r dwr yn ehangu ac yn gwneud y craciau yn lletach nes datblygu’n dyllau.
Wrth ddigwydd dro ar ôl tro, mae’r tyllau’n tyfu’n fwy a mwy.