Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi apelio ar i bobol beidio â gyrru ceir ar ffyrdd yng ngogledd y sir heddiw, os nad yw’r siwrneiau yn gwbwl hanfodol.
Maen nhw’n rhybuddio’n benodol ynglyn â ffyrdd o gwmpas tre’ Aberystwyth.
Maen nhw’n rhybuddio yn dilyn nifer o ddamweiniau sydd wedi digwydd oherwydd bod glaw wedi syrthio a rhewi ar ffyrdd oedd eisoes yn oer neu wedi rhewi.
Mae amodau gyrru yn dwyllodrus tu hwnt, meddai’r cyngor, a dyw hi ddim bob amser yn bosib gweld y rhew.