Fe allai’r canwr diweddara’ i gael ei bleidleisio oddi ar gyfres realaeth X-Factor, gael ei ymchwilio gan Adran Waith a Phensiynau llywodraeth San Steffan.
Yn ôl Iain Duncan Smith, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am fudd-daliadau yng ngwledydd Prydain, fe fydd Wagner yn cael ei alw i mewn er mwyn “ateb cwestiynau ac i’w amddiffyn ei hun” ynglyn â’r budd-daliadau y bu’n eu derbyn.
Roedd Wagner, sy’n hanu o Frasil, wedi bod yn derbyn taliadau oherwydd anaf i’w ysgwydd, ac roedd wedi dweud hynny’n glir wrth gynhyrchwyr y gyfres cyn dechrau ymddangos ar y rhaglenni.
Be’ ddywedodd Smith
Tra’n siarad ar raglen Sunday Live with Adam Boulton ar sianel Sky News heddiw, fe ddywedodd Iain Duncan Smith:
“O’r hyn dw i’n deall, fe sylwodd un o’r bobol oedd yn gweithio ar y rhaglen, fod Wagner yn gallu neidio i’r awyr gyda’i freichiau uwch ei ben, er ei fod yn derbyn y taliadau oherwydd anaf i’w ysgwydd – frozen shoulder.
“Fel arfer, mae diodde’ o frozen shoulder yn golygu na allwch ddal eich braich yn yr awyr… dyna pam ei fod yn methu â gweithio.
“Dw i’n amau y bydd yn rhaid iddo fynd i’r swyddfa i egluro’r sefyllfa a dweud pam ei fod yn hawlio budd-daliadau yn y lle cynta’.
“Mae achos Wagner yn enghraifft o’r broblem fwya’ sydd ganddon ni heddiw – sef bod y diwylliant o hawlio budd-daliadau wedi tyfu’n wyllt.”