Ipswich Town 1 – 3 Abertawe
Mae Brendan Rogers wedi canmol cymeriad ei dîm ar ôl iddynt ddod o fod ar ei hôl hi i guro Ipswich Town ddoe.
Roedd yr Elyrch wedi rheoli’r hanner cyntaf, ond heb allu sgorio. Yn fuan wedi’r hanner amser, roedden nhw gôl ar ei hôl hi wedi i beniad Andros Townsend ffeindio’r rhwyd.
Daeth Abertawe’n gyfartal wedi 64 munud, wrth i’r ymosodwr Craig Beattie, a oedd ar fin cael ei eilyddio gan y rheolwr, sgorio â’i ben.
Chwe munud yn ddiweddarach llwyddodd y Cymro ifanc, Joe Allen, i fanteisio ar amddiffyn gwan i roi’r Elyrch ar y blaen.
Beattie oedd wrth law i selio’r fuddugoliaeth gyda phedair munud yn weddill gydag ergyd wych o 20 llath a aeth i mewn oddi-ar y traws.
Canlyniad mawr
“Roedd yn ganlyniad mawr i ni mewn lle anodd i ddod. Dwi’n falch iawn” meddai Brendan Rogers.
“Ro’n i’n gwrando ar y chwaraewyr yn siarad wedi’r gêm, ac roedden nhw’n dweud mai dyna’r math o gêm y bydden nhw wedi colli tymor neu ddau yn ôl.”
“Fe wnaethon nhw ddangos cymeriad arbennig i ddal ati.”
Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn y trydydd safle wrth iddyn nhw baratoi i groesawu Milwall i Stadiwn Liberty nos Wener nesaf.