Mae Vodafone ar fin gwerthu ei gyfranddaliadau yn y cwmni ffonau symudol Ffrengig, SFR.

Mae’r cwmni ffonau Vodafone, sy’n gweithredu o Newbury yn Lloegr, yn y broses o gytuno ar ddêl i werthu ei siâr 44% yn y cwmni Ffrengig, sy’n werth £7 biliwn, yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd yr Observer.

Mae disgwyl hefyd y gallai Vodafone godi £800m ychwanegol trwy werthu ei siâr 24% yn y grwp Pwylaidd, Polkomtel.

Mae’r camau hyn yn rhan o strategaeth ddiweddar Vodafone i gael gwared ar nifer o fuddsoddiadau tramor.

Mae wedi codi dros £7 biliwn trwy wneud hyn dros y chwe mis diwetha’, ar ôl gwerthu buddsoddiadau yn China Televom a Softbank yn Japan.