Mae cyfreithiwr sylfaenydd gwefan WikiLeaks, Julian Assange, wedi galw cyhoeddi gwarant i’w arestio tros honiadau rhyw yn Sweden fel “stynt” gwleidyddol.
Yn ôl y twrnai, Mark Stephens, fe fydd ei gleient yn sicr yn ymladd y bwriad i’w ystraddodi i Sweden. Mae hynny, meddai, oherwydd y gallai yn y pen draw gael ei drosglwyddo i’r Unol Daleithiau, lle mae rhai gwleidyddion wedi galw am ei ladd.
Mae gwefan WikiLeaks – sydd wedi gorfod symud i’r Swistir oherwydd bod cwmniau Americanaidd yn gwrthod rhoi cartref iddo – wedi dod dan y lach o sawl cyfeiriad.
Mae Mr Assange, sydd ar hyn o bryd yn aros yng ngwledydd Prydain, wedi dod dan bwysau cynyddol i roi’r gorau i gyhoeddi dogfennau cyfrinachol ar ei wefan. Yr wythnos ddiwetha’, fe ddechreuodd gyhoeddi rannau o 250,000 o ddogefnnau diplomyddol.
Gwarant
Mae erlynwyr o Sweden wedi anfon gwarant arestio ryngwladol at Heddlu Llundain, gan restru honiadau o drais, ymyrryd yn rhywiol a rhyw heb gydsyniad. Honiadau y mae Mr Assange yn eu gwrthod yn chwyrn.
Mae asiantaeth heddlu rhyngwladol Interpol wedi cyhoeddi ‘Hysbysiad Coch’, yn annog pobol i gysylltu efo nhw os os ganddyn nhw unrhyw wybodaeth ynglyn â Mr Assange.
Mae ei gyfreithiwr heddiw wedi ymateb trwy ddweud fod prif erlynydd Sweden wedi cadarnhau ym mis Medi eleni nad oedd gan Mr Assange unrhyw achos i’w ateb, yn dilyn cwynion gan ddwy wraig.
Ond mae’r ymchwiliad wedi ei ail-agor yn dilyn ymyrraeth gan wleidydd yn Sweden.
“Gwaed ar ei ddwylo”
Mae’r cyn-ymgeisydd Arlywyddol, Sarah Palin, wedi galw Julian Assange yn “weithredwr gwrth-Americanaidd sydd â gwaed ar ei ddwylo” ac mae wedi galw arno i gael ei hela fel unrhyw arweinydd Taliban.
Fe aeth gwleidydd Gweriniaethol arall, Mike Huckabee, mor bell â dweud bod “y gosb eithaf yn rhy garedig” iddo.