Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC wedi amddiffyn y rhaglen faterion cyfoes, Panorama, a gafodd ei darlledu ychydig wythnosau cyn i Loegr golli’r ras i roi cartref i gystadleuaeth Cwpan y Byd 2018.
Yn ôl Mark Thompson, roedd y rhaglen – a gododd y clawr ar y breibio honedig o fewn corff FIFA – yn un bwysig.
Fe gafodd ei darlledu dridiau’n unig cyn cyhoeddi pwy oedd wedi ennill ras 2018, gan godi cwestiwn ynglyn â sut oedd pedwar o’r 22 aelod yn gweithredu.
Fe gyfeiriodd Llywydd FIFA, Sepp Blatter, at “ddrygioni’r cyfryngau” yn ystod araith cyn i’r aelodau bleidleisio.
Cywir
Ond, yn ôl Mark Thompson, fe wnaeth y BBC y penderfyniad “cywir” i ddarlledu’r rhaglen a oedd, meddai, yn cynnwys “gwybodaeth sylweddol ynglyn â materion o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd”.
Tra’n siarad ar raglen fore Sul Andrew Marr ar BBC1, fe honnodd na ddaeth y wybodaeth i law tim Panorama tan ychydig wythnosau cyn y darllediad.
“Fe dreulion nhw’r amser yn gwneud yn siwr fod y wybodaeth yn gywir, gan fynd â nifer o’r honiadau at y bobol dan sylw ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ymateb. Mae’n rhaid i ni wneud hynny.
“Pan oedd y rhaglen yn barod i’w darlledu hi, fe ddarlledon ni hi.
“Dw i’n credu ein bod ni’n iawn i ddarlledu pan wnaethon ni, a dw i’n meddwl bod y cyhoedd y tu ôl i ni yn hynny hefyd.”