Fe fydd teulu, ar gyfartaledd, yn teithio hyd at 207 milltir dros dymor y Nadolig, gan stopio bump o weithiau i ddanfon 37 o anrhegion i ffrindiau a pherthnasau.

Fe fydd y teulu hefyd yn gwario £520.49 ar yr anrhegion hyn, yn ôl canlyniadau arolwg gan gwmni ceir Saab UK.

Dim ond 15% o’r rheiny sy’n gwneud y siwrneiau at ffrindiau neu berthnasau, fydd yn gwneud hynny ar ddydd Nadolig, gyda 36% yn teithio cyn Noswyl Nadolig.

Fesul ardal

Y bobol sy’n byw yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yw’r bobol fwya’ caredig, gydag 43% ohonyn nhw’n rhoi 20 o anrhegion.

Pobol sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon sy’n teithio fwya’, gyda 17% yn teithio wyth o weithiau i ddanfon eu hanrhegion.

Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos fod 10% o bobol yn torri anrhegion wrth drio eu gwasgu nhw i mewn i’r car, a 17% yn cael eu gorfodi i adael anrhegion adre’ oherwydd diffyg lle.

Mae dros chwarter, 26%, yn dweud eu bod nhw angen gwyliau arall ar ôl gwyliau’r Nadolig er mwyn dod atyn nhw’u hunain wedi’r teithio.