Mae ffrwydriad mewn caffi rhyngrwyd yn ne-orllewin China wedi lladd chwech o bobol ac anafu 37 arall.
Mae llywodraeth dinas Kaili yn rhanbarth Guizhou wedi cadarnhau i’r ffrwydriad ddigwydd mewn caffi o dan bont yn y ddinas yn hwyr ddoe. Mae 11 o’r rheiny sydd wedi eu hanafu wedi eu hanafu yn ddifrifol.
Mae asiantaeth newyddion swyddogol Xinhua wedi dweud fod y ffrwydriad yn un mor rymus nes bod ffenestri tai ac adeiladau gerllaw wedi eu malu’n ufflon.
Mae grwp hawliau dynol yn honni mai’r ffaith bod cemegau diwydiannol cryf yn cael eu cadw ar y safle oedd i gyfri’ am y ffrwydriad.