Mae Gogledd Corea wedi lambastio penodiad gweinidog newydd Dde Corea, a hynny ar ôl iddo fygwth ymosod yn filwrol ar y Gogledd.
Yn ôl Gogledd Corea, mae sylwadau fel hyn yn creu “eithafiaeth sy’n amhosib ei rheoli” yn y rhan hon o’r byd.
Mae Gweinidog Amddiffyn newydd De Corea, Kim Kwan-jin, wedi dweud ar goedd ddydd Gwener y byddai awyrennau ei wlad yn bomio’r Gogledd petai’r wlad honno yn ymosod eto arnyn nhw gyda thaflegrau.
Fe ddechreuodd Mr Kim ar ei waith ddoe, gan gymryd drosodd gan ei ragflaenydd a ymddiswyddodd yn dilyn beirniadaeth ynglyn â’r ffordd “wan ac araf” yr oedd wedi ymateb i ymosodiadau cynta’ Gogledd Corea ar Dachwedd 23.
Llun: un o danciau De Corea