Mae pum awdurdod lleol yn y De-ddwyrain wedi atgyfodi cynllun i helpu pobol i fynd adref yn saff fin nos adeg gwyliau’r Nadolig.

Mae’r cynghorau yn ardal Gwent yn cydweithio gyda’r heddlu lleol ar gynllun ‘Cab-Safe’ sy’n cynnig ffordd ddiogel a hwylus o alw tacsi, a hynny am bris rhesymol.

Mae’r gwasanaeth yn rhoi cyfle i bobol sydd angen tacsi yrru neges destun i rif arbennig am 50c ar ben cost neges arferol. Yna, maen nhw’n derbyn rhifau’r tri chwmni tacsi sydd agosaf atyn nhw.

Mae eu hunion leoliad yn cael ei ddarganfod drwy eu signal ffon – ac mae’r cwmnïau tacsi sy’n rhan o’r cynllun wedi cytuno i roi blaenoriaeth i ferched sy’n agored i niwed.

Hyd yma, mae 56 cwmni tacsi yn yr ardal wedi cytuno i gymryd rhan yn y cynllun sy’n cael ei gynnal gan Gyngor
Sir Fynwy, Torfaen, Caerffili, Blaenau Gwent a Chasnewydd.

Llun: Un o’r ardaloedd yn y cynllun – Abertyleri