Bu farw tua 40 o bobol heddiw pan aeth bws ar dân ar ei ffordd i geisio achub carcharorion rhag tân mewn coedwig.

Gwarchodwyr carchar oedd y rhan fwya o’r dynion ar y bws, meddai swyddogion, ac roedden nhw ar eu ffordd i helpu. Dyma un o’r damweiniau gwaethaf yn hanes y wlad.

Yn ôl swyddogion, roedd y tân yn parhau i losgi’n ddi-reolaeth dros tuag 800 erw o goed wrth iddi nosi.

“Mae’n drychineb ar raddfa cwbl annisgwyl,” meddai’r prif weinidog Benjamin Netanyahu, a galwodd ar
Gyprus, yr Eidal, Rwsia a Groeg i roi help llaw wrth ddelio â’r tân.

Dechrau ger Carmel

Dechreuodd y tân yn ardal ogleddol Carmel tua chanol dydd, gan orfodi’r awdurdodau i glirio trigolion o’r ardal, gan gynnwys y carcharorion o garchar o’r enw Danum.

Wrth i’r bws yrru tua’r carchar, fe aeth ar dân. Mae lluniau teledu yn Israel yn dangos ysgerbwd y bws, gyda nifer o gyrff ar y llawr.

Yn ôl Eli Bin, llefarydd ar ran y gwasanaeth achub, dim ond tri pherson a ddaeth o’r tân ar y bws yn fyw, ac mae’r tri wedi eu llosgi’n ddrwg. Chafodd yr un o’r carcharorion eu hanafu.

Haf poeth

Mae’r adroddiadau diweddaraf yn dweud bod y tân wedi ei gynnau ar ddamwain gan bobol yn llosgi sbwriel.

Mae Israel ar ganol haf anarferol o boeth ac roedd prinder glaw yn ystod yr hydref yn golygu bod y tân wedi gallu lledu’n rhwydd.

Llun: Y fflamau yn y pellter (Heddlu Israel)