Mae hi’n argyfwng yn Bosnia heddiw wedi i ddinasyddion mewn sawl rhan o’r wlad gael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi ar ôl i law trwm achosi llifogydd yno.

Yn ninas ddwyreiniol Foca mae achubwyr wedi bod yn defnyddio cychod i fynd i gasglu pobol, wrth i’r dŵr gyrraedd llawr cyntaf nifer o adeiladau.

Mae ysgolion wedi eu cau, does gan hanner y dref ddim trydan, a dyw dŵr ddim yn ddiogel i’w yfed.

Yn ninas gyfagos Gorazde, bu’n rhaid i’r fyddin ffederal ddod i’r adwy er mwyn helpu timoedd achub.

Mae hi’n parhau i lawio ar draws y wlad, ac mae’r awdurdodau’n rhybuddio bod mwy o afonydd yn bygwth gorlifo’u glannau, yn enwedig yn ne’r wlad.

Yr ucha’ mewn mwy na chanrif

Mae swyddogion dinas Foca yn dweud mai dyma’r lefel uchaf i’r afon Drina godi mewn 104 o flynyddoedd.

Drws nesa’ yn Serbia hefyd mae cannoedd wedi cael eu symud i ardaloedd mwy diogel. Yng ngorllewin y wlad, mae’r afon Drina eisoes wedi gorlifo dros dai, tir amaethu, a ffyrdd.

Yng ngogledd Montenegro cafodd tua 600 o bobol eu symud rhag y llifogydd er mwyn treulio’r noson mewn canolfannau cymunedol.

Llun: Foca (J. Budissin CCA 3.0)