Mae cwmni teledu Rondo Media wedi ymddiheuro heddiw ar ôl gorfod canslo cyngerdd mawr i ddathlu pen-blwydd y canwr, Aled Jones yn 40 oed.
“Problemau amserlenni” oedd ar fai, meddai’r cwmni ac mae Golwg 360 yn deall mai’r canwr ei hun oedd wedi gorfod tynnu’n ôl.
Ef oedd ar ben y rhestr ar gyfer y cyngerdd ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen, 11 Ragfyr. Y bwriad oedd bod unrhyw elw’n mynd at elusen Tŷ Gobaith
Ymhlith yr artistiaid oedd i fod i berfformio yn y cyngerdd oedd Dennis O’Neill, Elin Fflur ac Annette Bryn Parri ac yn ôl y Pafiliwn, roedd wedi ei drefnu ar fyr rybudd.
‘Er tegwch i bawb’
“Yn anffodus, doedd rhai o’r artistiaid yr oeddem wedi gobeithio eu gwahodd i berfformio methu bod gyda ni oherwydd problemau amserlenni,’” meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media wrth Golwg360.
“O ganlyniad, ac er tegwch i bawb, fe benderfynwyd canslo’r cyngerdd,” meddai’r Prif Weithredwr cyn dweud ei fod yn “ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd”.
“Mae Aled wrthi yn perfformio ar daith ar hyn o bryd a bydd yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd nos Wener Rhagfyr 10.”
Llun: Rhan o hysbyseb i’r cyngerdd