Mae’r Heddlu yng Nghaerdydd wedi darganfod swm ‘sylweddol’ o gyffuriau ac arian mewn adeilad yn Nhreganna.
Roedd plismyn lleol wedi chwilio tŷ yn Kings Road tua chwech o’r gloch fore heddiw a dod o hyd i £30,000 yn y tŷ a’r hyn oedd yn ymddangos fel heroin yn y tŷ ac mewn llwyni cyfagos.
Mae dau ddyn 48 blwydd oed a 38 wedi’u harestio ynghyd a thair o ferched 40, 43 a 71 oed ar amheuaeth o feddu cyffuriau dosbarth A a’u cyflenwi. Maen nhw i gyd wedi’u cadw yn y ddalfa.
“Roedd yr ymgyrch yn un lwyddiannus gyda llawer o gyffuriau’n cael eu darganfod a’u cymryd oddi ar strydoedd Caerdydd,” meddai Steve Thomas o Dîm Plismona Treganna.
“Dw i’n gobeithio bod gwaith yr Heddlu wedi tawelu meddwl y gymuned leol heddiw.”