Mae prif weithredwr y Saraseniaid wedi awgrymu y gallai Gavin Henson chwarae ei gêm gyntaf dros ei glwb newydd yn erbyn Wasps yn Wembley ar Ŵyl San Steffan.

Fe ymunodd y Cymro gyda’r clwb Uwch Gynghrair Lloegr, gan adael y Gweilch ym mis Hydref. Ond mae Henson yn dal i gystadlu ar y rhaglen deledu Strictly Come Dancing ar hyn o bryd.

Ond mae Ed Griffiths yn credu bod ‘na gyfle bydd y chwaraewr amryddawn ar gael ar gyfer y gêm yng nghartref pêl droed Lloegr.

“Mae’r gêm yn Wembley yn edrych fel llwyfan mawr ar gyfer beth allai fod yn achlysur arbennig,” meddai’r prif weithredwr wrth Radio Three Counties y BBC.

“Yn amlwg yr hyfforddwyr sy’n dewis y tîm, ond mae’n od sut mae pethe’n gallu gweithio. Efallai y bydd Gavin Henson yn gallu chwarae i’r Saraseniaid am y tro cyntaf ar y llwyfan mwyaf mawreddog yn chwaraeon Lloegr.”

‘Hapus gyda’i ddatblygiad’

Dyw’r Cymro heb chwarae rygbi ers mis Ebrill 2009 pan benderfynodd cymryd seibiant o’r gêm yn dilyn cyfres o anafiadau. Ond mae Ed Griffiths yn ffyddiog bydd Henson ‘nôl ar ei orau yng nghrys y Saraseniaid.

“Mae’n edrych yn wych yn yr ymarferion. Mae’r hyfforddwyr yn hapus iawn gyda’i ddatblygiad dros yr wythnosau diwethaf.”