Mae Lloegr wedi colli’r cyfle i gynnal Cwpan Bêl-droed y Byd yn 2018, er gwaetha’ ymgyrch funud ola’ gan y Prif Weinidog David Cameron, y Tywysog William a chwaraewyr fel David Beckham.
Fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Rwsia, er bod y Prif Weinidog yno, Vladimir Putin, wedi cadw draw o’r bleidlais yn Zurich yn y Swistir.
Roedd y cynigion eraill yn rhai ar y cyd gan Sbaen/Portiwgal a Gwlad Belg/Yr Iseldiroedd.
Dim ond dwy bleidlais gafodd Lloegr yn y rownd gyntaf o’i gymharu gyda naw i Rwsia, saith i Sbaen/Portiwgal, a pedair i Wlad Belg/Yr Iseldiroedd.
Yn yr ail rownd cafodd Rwsia 13 pleidlais, Sbaen/Portiwgal saith, a Gwlad Belg/Yr Iseldiroedd dwy.
Pwyllgor y corff pêl-droed rhyngwladol FIFA oedd yn gwneud y penderfyniad.