Mae Lloegr wedi colli allan ar gynnal Cwpan y Byd 2018 ar ôl i Rwsia cael eu dewis i gynnal y gystadleuaeth wedi’r bleidlais derfynol gan bwyllgor FIFA.

Mae ‘na adroddiadau bod Lloegr wedi mynd allan yn rownd gyntaf y pleidleisio ym mhencadlys awdurdod pêl droed y byd yn Zurich.

Roedd Rwsia hefyd wedi curo cynigion ar y cyd gan Sbaen/Portiwgal a Gwlad Belg/Iseldiroedd.

Mae Qatar wedi cael eu dewis i gynnal Cwpan y Byd 2022, gan guro cynnigion gan yr Unol Daleithiau, Awstralia, De Korea a Japan.