Mae digwyddiadau Nadoligaidd led led Cymru wedi cael eu gohirio neu eu canslo yr wythnos hon oherwydd peryglon yn y tywydd oer.

Un o’r digwyddiadau sydd wedi gorfod canslo yw’r Ffair Nadolig flynyddol ym Mhlasdy Llanerchaeron eleni, ar y safle lle cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym mis Mehefin.

Yn ôl Rheolwraig Gwasanaethau Ymwelwyr Llanerchaeron, mae problemau mawr gyda’r eiddo oherwydd peipiau dŵr sydd wedi rhewi a thorri, a mynedfeydd a maes parcio’r hen blasdy, sydd yn parhau’n llithrig ar ôl wythnos o eira a rhew.

“Mae’n rhwystredig iawn,” medai Janice Thomas. “R’yn ni’n colli niferoedd yr ymwelwyr, ac r’yn ni’n colli incwm.”

Ac nid y tywydd yn unig sydd yn eu herbyn. Yn ôl Janice Thomas, mae’n sefyllfa amhosib bron, gan ei bod hi’n beryglus rhoi halen ar hyd y llwybrau i lawr i’r tŷ, a hynny am resymau cyfreithiol.

“Os fydda i’n clirio llwybr i ymwelwyr, fe fydda i, yn gyfreithiol, wedi cymryd cyfrifoldeb am y llwybr hynny,” meddai, “ac os ddigwyddith rywbeth i rhywun wrth gerdded lawr y llwybr ’ny wedyn – fy mai i yw e..”

Siom wedi hwb yr Eisteddfod

Mae’r Ffair Nadolig yn Llanerchaeron yn mynd ers blynyddoedd, gydag 82 o stondinau, ac mae fel rheol yn para dros y Sadwrn a’r Sul. Llynedd, fe ddaeth bron i 3,000 o bobol yno. Roedd Janice Thomas yn disgwyl mwy fyth eleni.

“Ro’n i’n disgwyl y bydde hi wedi bod hyd yn oed yn fwy bisi achos y diddordeb wedi i Eisteddfod yr Urdd fod yma ym mis Mehefin.”

Mae’r sefyllfa hefyd wedi bod yn rhwystredig i stondinwyr, gyda rhai wedi cadw lle iddyn nhw a’u cynnyrch ers yr haf.

Mae rhai wedi newid eu trefniadau ar y funud olaf a mynd i ffeiriau Nadolig eraill mewn llefydd fel Aberglasne a Llangrannog.

Er bod y Ffair Nadolig wedi ei chanslo, fe fydd y plasdy ei hun ar agor rhwng 8 a 12 Rhagfyr, wedi ei addurno’n arbennig ar gyfer y Nadolig.