Mae gêm y Dreigiau yn erbyn Ulster yn Ravenhill nos yfory wedi cael ei gohirio oherwydd y tywydd gaeafol.

Fe ddaw’r penderfyniad yn dilyn archwiliad o’r cae’r prynhawn yma wrth i’r tywydd rhewllyd barhau.

“Gyda’r Dreigiau’n bwriadu teithio heno, bu’n rhaid i Ulster ohirio’r gêm yn dilyn archwiliad o’r cae,” meddai Ulster mewn datganiad.

Fe fydd y gêm yn cael ei ail threfnu ond does dim sôn eto pryd fydd hi’n cael ei chynnal.

Newid amser

Fe fydd gêm y Gleision yn erbyn Munster ar Barc Thomond yn cael ei chwarae’n gynharach ‘na’r amser gwreiddiol oherwydd y tywydd gaeafol.

Roedd tîm Dai Young i fod i wynebu’r Gwyddelod am 7.30pm nos Sadwrn, ond fe fyddan nhw’n chwarae am 5.00pm mewn ymdrech i osgoi gohirio’r gêm.