Mae’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi cadarnhau y bydd rhaid i dîm rygbi saith bob ochr Prydain chwarae mewn rowndiau rhagbrofol i ennill eu lle yng Ngemau Olympaidd Rio 2016.

Mae trafodaethau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd rhwng undebau rygbi Cymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon am y ffordd orau i reoli tîm Prydeinig.

Fe ddywedodd pennaeth datblygiad a pherfformiad y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, Mark Egan bod angen i Brydain gael strwythur mewn lle er mwyn cystadlu mewn rownd ragbrofol Ewropeaidd ar gyfer y gemau yn Rio de Janerio.

Roedd rheolau hoci a phêl droed blaenorol yn rhoi’r hawl i Brydain ddefnyddio un o dimau’r gwledydd cartref i chwarae yn y rowndiau rhagbrofol ar ran Prydain. Ond ni fydd hyn yn bosib gyda’r tîm saith bob ochr.

“Fe fydd ‘na dîm Prydeinig a bydd rhaid iddyn nhw ennill eu lle yn y Gemau fel tîm Prydeinig,” meddai Mark Egan.

“Ar hyn o bryd mae’r undebau yn trafod sut fydd yr holl beth yn gweithio iddynt. Mae’n rhaid iddo fod yn ateb sy’n iawn i rygbi”

Ni fydd penderfyniad terfynol ynglŷn â strwythur y rowndiau rhagbrofol tan ar ôl Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, ond mae’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn disgwyl iddo gael ei selio ar y 5 rhanbarth Olympaidd o 2014.

Yn dilyn rownd ragbrofol Ewropeaidd, fe fydd cystadleuaeth fyd-eang o roi ail gyfle i rai gwledydd gipio un o’r 12 o safleoedd fydd ar gael yn Rio.

Fe ddywedodd Mark Egan y gallai’r gwledydd cartref uno i chwarae fel tîm Prydeinig ar gyfer cyfres saith bob ochr y byd cyn y Gemau.

“R’y ni’n edrych ar bob opsiwn. Ond mae’r gwledydd yma wedi dweud eu bod nhw am aros yn unigol oherwydd ei fod yn bwysig ar gyfer datblygu chwaraewyr ac rwy’n credu bydden nhw’n amharod i roi’r gorau i hynny”