Mae cadeirydd Awdurdod S4C wedi cael ei gyhuddo o gadw aelodau eraill yr Awdurdod yn y tywyllwch tros ei ddyfodol.

Fe honnodd Is-gadeirydd newydd yr Awdurdod wrth gylchgrawn Golwg bod John Walter Jones wedi gwrthod dweud yn blaen a oedd am aros yn ei swydd ai peidio.

Fe gafodd Rheon Tomos ei ddewis yn Is-gadeirydd ar ôl i’r Awdurdod ddeall bod John Walter Jones wedi ymddiswyddo ond ddechrau’r wythnos hon fe gyhoeddodd y Cadeirydd wrth staff y sianel ei fod yn aros.

Yn ôl Rheon Tomos, dyna oedd y tro cynta’ i aelodau Awdurdod glywed hynny gan y Cadeirydd.

“O ran cwrteisi i aelodau’r Awdurdod mi ddylai o fod wedi trafod hyn efo aelodau’r Awdurdod gyntaf,” meddai Rheon Tomos, gan ddweud ei fod wedi cysylltu gyda John Walter Jones dros y Sul ac wedi methu â chael ateb i’w gwestiynau.

“Doedd o ddim eisiau rhannu unrhyw wybodaeth,” meddai.

Ymddiswyddwch, meddai Bryn Fôn

Mewn stori arall yn Golwg, mae’r actor a’r canwr Bryn Fôn yn galw am ymddiswyddiad y Cadeirydd. Doedd dim angen i holl aelodau’r Awdurdod fynd, meddai, ond “yn bendant” roedd eisiau i John Walter Jones ymddiswyddo.

Y straeon yn llawn yn Golwg yr wythnos yma

Llun: John Walter Jones