Mae rhai o ddaearegwyr mwyaf blaenllaw gwledydd Prydain wedi bod yn mentro i Fannau Brycheiniog i chwilio am ateb i un o’r bygythiadau mwyaf i ddyfodol y byd.
Y gred yw bod modd cael atebion i rai o gwestiynau newid hinsawdd ym mynyddoedd y Parc Cenedlaethol yno – mae rhan hefyd wedi ei ddynodi’n Geobarc y Fforest Fawr oherwydd pwysigrwydd y creigiau yno.
Roedd seminar yno’n pwysleisio bod modd defnyddio’r lle yn labordy ar gyfer deall newid hinsawdd ddoe a heddiw.
“Mae llawer o’r ymchwilwyr wedi dod oherwydd ei fod yn lle sydd â’r potensial i ddatgelu gwybodaeth hollbwysig am newid yn yr hinsawdd,” meddai Swyddog Datblygu Geobarc y Fforest Fawr Alan Bowring.
Rhewlifoedd
“Roedd ein bryniau lleol – Fforest Fawr, y Mynydd Du a Bannau Brycheiniog – yn digwydd bod ar ymylon rhewlifoedd yr Oes Iâ ddiwethaf ac roedd y rheiny’n hynod sensitif i newidiadau yn yr hinsawdd.
“Mae hanes y rhewlifau’n ein helpu i ddeall, nid yn unig newid yn yr hinsawdd, filoedd o flynyddoedd yn ôl, ond sut y gallai newid yn yr hinsawdd yn awr ac yn y dyfodol effeithio arnon ni – nid yn unig ar Gymru, ond ar ogledd-orllewin Ewrop gyfan.”
Pan gafodd ei sefydlu, Geobarc y Fforest Fawr oedd y pedwerydd aelod ar hugain o Rwydwaith Geobarciau Ewrop a daeth hefyd yn aelod o’r Rhwydwaith Geobarciau Byd-eang dan adain y corff rhyngwladol UNESCO.