Mae capten tîm rygbi Seland Newydd Richie McCaw wedi cael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn y Byd am 2010.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r blaenasgellwr i ennill y wobr a’r trydydd tro yn ei yrfa ar ôl hefyd ennill yn 2006 hefyd.

Fe gurodd McCaw ei gydwladwr Mils Muliaina, Victor Matfield, Imanol Harinordoquy, David Pocock a Kurtley Beale i’r wobr.

“Mae wedi bod yn flwyddyn dda ac mae pawb wedi gwneud ymdrech fawr,” meddai Richie McCaw.

“Mae wedi bod yn sbort gweithio gyda chwaraewyr o safon, ac rwy’n mwynhau chwarae rygbi yn enwedig rygbi rhyngwladol”

Mwy o wobrau i Seland Newydd

Fe gafodd y Crysau Duon eu henwi’n dîm y flwyddyn wedi tymor lle collwyd dim ond un gêm. Fe enillodd Seland Newydd 13 o’u 14 gêm yn 2010 a oedd yn cynnwys ennill Pencampwriaeth y Tair Gwlad yn hemisffer y de, a’r Gamp Lawn ar eu taith o Ewrop dros yr hydref.

Mae hyfforddwr y Crysau Duon, Graham Henry wedi cael ei enwi’n yn Hyfforddwr y Flwyddyn hefyd.

Dyma’r bedwaredd tro i gyn hyfforddwr Cymru ennill y wobr ar ôl cael ei enwi’n hyfforddwr y flwyddyn yn 2005, 2006 a 2008.

Llun: Richie McCaw